1. Un diwrnod dyma aelodau'r urdd o broffwydi yn dweud wrth Eliseus, “Edrych, mae'r lle yma lle dŷn ni'n cyfarfod gyda ti yn rhy fach.
2. Beth am i ni fynd at yr Afon Iorddonen. Gallwn ni i gyd gymryd coed oddi yno, a mynd ati i adeiladu lle newydd i ni gyfarfod.”“Iawn, ewch chi,” meddai Eliseus.
3. Ond dyma un ohonyn nhw'n gofyn iddo, “Plîs wnei di ddod gyda ni?” A dyma fe'n cytuno,
4. a mynd gyda nhw.Pan gyrhaeddon nhw'r Afon Iorddonen dyma nhw'n dechrau torri coed.
5. Roedd un ohonyn nhw wrthi'n torri trawst, a dyma ben ei fwyell yn syrthio i'r dŵr. A dyma fe'n gweiddi, “O, syr! Bwyell wedi ei benthyg oedd hi!”
6. Dyma broffwyd Duw yn gofyn iddo, “Ble syrthiodd hi?”Dangosodd iddo ble, ac yna dyma Eliseus yn torri cangen o bren, a'i thaflu i'r fan, a dyma'r fwyell yn dod i'r wyneb.
7. “Gafael ynddi,” meddai Eliseus. A dyma'r proffwyd ifanc yn estyn ei law a codi'r fwyell o'r dŵr.
8. Pan oedd brenin Syria yn rhyfela yn erbyn Israel, roedd e'n trafod y strategaeth gyda'i swyddogion milwrol. Byddai'n penderfynu codi gwersyll yn rhywle, i ymosod ar Israel.
9. Ond wedyn byddai Eliseus, proffwyd Duw, yn anfon neges at frenin Israel i ddweud wrtho am fod yn ofalus wrth fynd heibio'r lle arbennig hwnnw, am fod byddin Syria'n dod yno i ymosod.
10. Wedyn byddai brenin Israel yn anfon milwyr yno i amddiffyn y lle. Roedd hyn yn digwydd dro ar ôl tro.
11. Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe'n galw ei swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy'n helpu brenin Israel?”
12. Dyma un ohonyn nhw'n ateb, “Fy mrenin. Does neb ohonon ni'n gwneud hynny, syr. Eliseus y proffwyd yn Israel ydy e! Mae hyd yn oed yn rhannu gyda brenin Israel beth ti'n ddweud yn dy ystafell wely!”
13. Felly dyma'r brenin yn dweud, “Ffeindiwch e i mi, er mwyn i mi anfon dynion yno i'w ddal e!”Dyma nhw'n darganfod fod Eliseus yn Dothan, a mynd i ddweud wrth y brenin.
14. Felly dyma'r brenin yn anfon byddin gref yno, gyda cheffylau a cherbydau. A dyma nhw'n cyrraedd yno yn y nos ac yn amgylchynu'r dre.
15. Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu'r dre. A dyma'r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?”
16. Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nac sydd gyda nhw.”
17. Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma'r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e'n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus.
18. Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro'r bobl yma'n ddall.” A dyma nhw'n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn.
19. Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na'r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi'n chwilio amdano.” A dyma fe'n eu harwain nhw i Samaria.