13. Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i'r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?”Ond dyma hi'n ateb, “Na, mae'r teulu o'm cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.”
14. Felly dyma Eliseus yn gofyn i Gehasi, “Be allwn ni wneud drosti?”A dyma Gehasi'n ateb, “Wel, does ganddi hi ddim mab, ac mae ei gŵr hi'n mynd yn hen.”
15. “Dywed wrthi am ddod yma,” meddai Eliseus. Felly dyma Gehasi yn ei galw hi, a dyma hi'n dod a sefyll wrth y drws.
16. A dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Yr adeg yma'r flwyddyn nesaf, bydd gen ti fab yn dy freichiau.”A dyma hi'n ymateb, “Na, syr! Rwyt ti'n broffwyd Duw. Paid dweud celwydd wrtho i.”
17. Ond cyn hir roedd hi'n disgwyl babi, a tua'r un adeg y flwyddyn wedyn cafodd mab ei eni iddi, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.
18. Ychydig flynyddoedd wedyn pan oedd y bachgen ddigon hen, roedd wedi mynd allan at ei dad adeg y cynhaeaf.
19. Yn sydyn dyma fe'n gweiddi ar ei dad, “O, fy mhen! Mae fy mhen i'n brifo.”Dyma'r tad yn dweud wrth un o'r gweision, “Dos ag e at ei fam.”
20. Dyma hwnnw'n ei gario yn ôl at ei fam, a bu'n eistedd ar ei glin drwy'r bore. Ond yna ganol dydd dyma fe'n marw.
21. Dyma hi'n ei gario i fyny i lofft y proffwyd, a'i roi i orwedd ar y gwely.Yna dyma hi'n mynd allan
22. a galw ar ei gŵr, “Dw i angen mynd i weld y proffwyd. Gad i mi gael un o'r gweision ac asen i mi fynd i'w weld ar frys ac yna dod yn ôl.”