2 Brenhinoedd 23:25-37 beibl.net 2015 (BNET)

25. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo o'i flaen nac ar ei ôl. Roedd wedi troi at yr ARGLWYDD â'i holl galon, ei holl enaid a'i holl nerth, i wneud fel mae Cyfraith Moses yn gofyn.

26. Ac eto, roedd yr ARGLWYDD yn dal yn ddig gyda Jwda; roedd yr holl bethau oedd Manasse wedi eu gwneud wedi ei ddigio fe gymaint.

27. Dwedodd, “Dw i'n mynd i droi cefn ar Jwda fel dw i wedi gwneud gydag Israel. Dw i'n mynd i wrthod y ddinas yma roeddwn i wedi ei dewis – Jerwsalem, a'r deml y dwedais i amdani, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’”

28. Mae gweddill hanes Joseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

29. Yn ystod cyfnod Joseia roedd Pharo Necho, brenin yr Aifft, wedi mynd at yr Afon Ewffrates i helpu brenin Asyria. Dyma Joseia yn arwain ei fyddin allan i ymladd yn ei erbyn, ond dyma Pharo Necho yn lladd Joseia yn y frwydr yn Megido.

30. Dyma ei weision yn mynd â'i gorff yn ôl o Megido i Jerwsalem mewn cerbyd rhyfel, a cafodd ei gladdu yn ei fedd ei hun. Yna dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.

31. Roedd Jehoachas yn ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).

32. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen.

33. Dyma Pharo Necho yn ei ddal a'i gadw yn y ddalfa yn Ribla yn ardal Chamath, a dod a'i deyrnasiad yn Jerwsalem i ben. Ar ôl gosod treth ar y wlad o dair mil cilogram o arian a tri deg cilogram o aur,

34. dyma Pharo Necho'n gwneud Eliacim (mab arall i Joseia) yn frenin yn lle ei dad, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas i lawr i'r Aifft, a dyna lle buodd hwnnw farw.

35. Roedd Jehoiacim yn talu'r arian a'r aur oedd y Pharo yn ei hawlio, ond i wneud hynny roedd rhaid iddo drethu'r wlad i gyd. Casglodd yr arian i dalu Pharo Necho drwy godi treth oedd yn seiliedig ar faint o eiddo oedd gan bob un.

36. Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Sebida (merch Pedaia o dref Rwma).

37. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen.

2 Brenhinoedd 23