2 Brenhinoedd 22:5-18 beibl.net 2015 (BNET)

5. Wedyn mae'r arian i'w roi i'r rhai sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml. Ac mae'r rheiny i dalu'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith atgyweirio,

6. sef y seiri coed, adeiladwyr a'r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig wedi eu naddu'n barod i atgyweirio'r deml.

7. Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.”

8. Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen.

9. Yna dyma Shaffan yn mynd i roi adroddiad yn ôl i'r brenin: “Mae dy weision wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi ei drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml.”

10. Yna dyma fe'n dweud, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma fe'n ei darllen i'r brenin.

11. Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma'r brenin yn rhwygo ei ddillad.

12. Yna dyma fe'n galw am Chilceia'r offeiriad, Achicam fab Shaffan, Achbor fab Michaia, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol.

13. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD, ar fy rhan i a phobl Jwda i gyd, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb wneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.”

14. Felly dyma Chilceia, Achicam, Achbor, Shaffan ac Asaia yn mynd at y broffwydes Hulda. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Charchas) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi.

15. Dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i,

16. fy mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma, ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r sgrôl mae brenin Jwda wedi ei ddarllen yn dweud.

17. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi eu gwneud.’

18. Dwedwch wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi ei glywed:

2 Brenhinoedd 22