1. Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iedida (merch Adaia o Botscath).
2. Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
3. Pan oedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd, dyma fe'n anfon ei ysgrifennydd, Shaffan (mab Atsaleia ac ŵyr Meshwlam), i deml yr ARGLWYDD.
4. Dyma fe'n dweud wrtho, “Dos at Chilceia, yr archoffeiriad. Mae i gyfri'r arian mae'r porthorion wedi ei gasglu gan y bobl pan maen nhw'n dod i'r deml.
5. Wedyn mae'r arian i'w roi i'r rhai sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml. Ac mae'r rheiny i dalu'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith atgyweirio,
6. sef y seiri coed, adeiladwyr a'r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig wedi eu naddu'n barod i atgyweirio'r deml.
7. Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.”
8. Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen.
9. Yna dyma Shaffan yn mynd i roi adroddiad yn ôl i'r brenin: “Mae dy weision wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi ei drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml.”
10. Yna dyma fe'n dweud, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma fe'n ei darllen i'r brenin.
11. Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma'r brenin yn rhwygo ei ddillad.
12. Yna dyma fe'n galw am Chilceia'r offeiriad, Achicam fab Shaffan, Achbor fab Michaia, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol.