2 Brenhinoedd 20:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?”

11. Yna dyma'r proffwyd Eseia'n gweddïo, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas.

12. Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl.

13. Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!

14. Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw o wlad bell iawn – o Babilon.”

15. Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”

16. A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD:

17. ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD.

18. ‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’”

2 Brenhinoedd 20