1. Daeth Heseceia fab Ahas yn frenin ar Jwda yn ystod trydedd flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin Israel.
2. Dau ddeg pum mlwydd oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia.
3. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
4. Dyma fe'n cael gwared รข'r allorau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio'r sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi a'i galw'n Nechwshtan.