12. Roedd y neges roedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Jehw wedi dod yn wir: “Bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” A dyna'n union oedd wedi digwydd.
13. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Shalwm fab Jabesh yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am fis.
14. Roedd Menachem fab Gadi wedi dod o Tirtsa i Samaria, a lladd Shalwm. Yna dyma fe'n dod yn frenin yn ei le.
15. Mae gweddill hanes Shalwm, a'r cynllwyn drefnodd e, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
16. Pan ddaeth Menachem o Tirtsa aeth i ymosod ar dre Tiffsa am i'r bobl yno wrthod ei dderbyn. Lladdodd bawb oedd yn byw yno ac yn yr ardal o gwmpas, a hyd yn oed rhwygo'n agored yr holl wragedd beichiog oedd yno.
17. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Menachem fab Gadi yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddeg mlynedd.