2. Roedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
3. Roedd Amaseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, er, ddim cystal â'r brenin Dafydd, ei hynafiad. Roedd yn union yr un fath â'i dad Joas.
4. Wnaeth yntau ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
5. Ar ôl gwneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn ddiogel, dyma fe'n dienyddio'r swyddogion hynny oedd wedi llofruddio ei dad, y brenin.
6. Ond wnaeth e ddim lladd plant y llofruddion, am fod sgrôl Cyfraith Moses yn dweud fod yr ARGLWYDD wedi gorchymyn: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.”
7. Lladdodd ddeg mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen. Ennillodd ddinas Sela mewn brwydr, a newid ei henw i Iocteël; a dyna'r enw arni hyd heddiw.
8. Yna dyma Amaseia'n anfon negeswyr at Jehoas, brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.”
9. Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud:“Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed!
10. Amaseia, mae'n wir dy fod ti wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!”
11. Ond doedd Amaseia ddim am wrando. Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma nhw'n dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda.
12. Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre.
13. Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. A dyma fe'n mynd ymlaen i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr.
14. Yna dyma fe'n cymryd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml ac yn storfa'r palas. Cymerodd wystlon hefyd, ac yna mynd yn ôl i Samaria.
15. Mae gweddill hanes Jehoas, y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
16. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn dod yn frenin yn ei le.
17. Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw.