2 Brenhinoedd 13:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Doedd gan Jehoachas ddim byddin ar ôl ychwaith, dim ond pum deg o geffylau, deg cerbyd a deg mil o filwyr troed. Roedd brenin Syria wedi eu dinistrio nhw a'u sathru nhw dan draed fel mân lwch ar lawr dyrnu.

8. Mae gweddill hanes Jehoachas, y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

9. Bu Jehoachas farw a chael ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoas yn dod yn frenin yn ei le.

10. Roedd Joas wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg saith o flynyddoedd, pan ddaeth Jehoas fab Jehoachas yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg chwech o flynyddoedd.

11. Gwnaeth yntau hefyd bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd e'n byw yr un fath.

12. Mae gweddill hanes Jehoas, y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

13. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn eistedd ar yr orsedd yn ei le.

14. Pan oedd Eliseus yn sâl ac ar ei wely angau aeth Jehoas, brenin Israel, i'w weld. Dyma Jehoas yn torri i lawr i wylo o'i flaen a dweud, “Fy nhad, fy nhad! Ti ydy arfau a byddin Israel!”

15. Dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Tyrd â dy fwa a dy saethau yma.” A dyma fe'n gwneud hynny.

16. Wedyn dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Gafael yn y bwa.” Yna dyma Eliseus yn rhoi ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.

2 Brenhinoedd 13