2 Brenhinoedd 13:20-25 beibl.net 2015 (BNET)

20. Bu farw Eliseus a cafodd ei gladdu.Roedd criwiau o ddynion o Moab yn arfer ymosod ar y wlad bob gwanwyn.

21. Un tro pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu, dyma'r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o'r criwiau yna o Moab yn dod. Felly dyma nhw'n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.

22. Roedd Hasael, brenin Syria, wedi bod yn cam-drin Israel ar hyd cyfnod Jehoachas fel brenin.

23. Ond dyma'r ARGLWYDD yn tosturio a dangos trugaredd atyn nhw. Roedd yn garedig atyn nhw oherwydd ei ymrwymiad gydag Abraham, Isaac a Jacob. Hyd heddiw mae e'n dal i wrthod eu dinistrio nhw na chael gwared â nhw!

24. Pan fuodd Hasael, brenin Syria, farw, daeth ei fab Ben-hadad yn frenin yn ei le.

25. Yna dyma Jehoas fab Jehoachas yn ennill tair brwydr yn erbyn Ben-hadad a chymryd yn ôl y trefi roedd Hasael wedi eu dwyn oddi ar ei dad.

2 Brenhinoedd 13