2 Brenhinoedd 12:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly dyma'r offeiriaid yn cytuno i beidio cymryd mwy o arian gan y bobl, ac i roi heibio'r cyfrifoldeb i atgyweirio'r deml.

9. Dyma Jehoiada'r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe'n rhoi'r gist ar yr ochr dde i'r allor, wrth y fynedfa i'r deml. Roedd y porthorion yn rhoi'r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist.

10. Pan oedden nhw'n gweld fod y gist yn llawn, roedd ysgrifennydd y brenin a'r archoffeiriad yn cyfri'r arian a'i roi mewn bagiau.

11. Yna roedden nhw'n ei roi i'r fformyn oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Roedden nhw wedyn yn ei ddefnyddio i dalu'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar y deml.

12. Roedd yn mynd i'r dynion oedd yn adeiladu'r waliau a'r seiri maen, ac roedden nhw'n ei ddefnyddio i brynu coed, cerrig wedi eu naddu ac unrhyw beth arall oedd angen ar gyfer y gwaith.

13. Tra roedd y gwaith o atgyweirio'r deml yn digwydd, gafodd dim o'r arian ei ddefnyddio i dalu am bowlenni arian, sisyrnau, dysglau, utgyrn nac unrhyw gelfi aur ac arian eraill ar gyfer y deml.

14. Roedd y cwbl yn cael ei roi i'r fformyn oedd yn arolygu'r gwaith o atgyweirio teml yr ARGLWYDD.

15. Doedd dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian oedd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn gwbl onest.

16. (Ond doedd yr arian oedd yn cael ei dalu gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r aberth i buro o bechod ddim yn dod i'r deml. Yr offeiriaid oedd yn cael hwnnw.)

17. Bryd hynny dyma Hasael, brenin Syria, yn ymosod ar dre Gath a'i choncro. Yna dyma fe'n penderfynu ymosod ar Jerwsalem.

2 Brenhinoedd 12