2 Brenhinoedd 12:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth Joas yn frenin yn ystod seithfed flwyddyn Jehw fel brenin Israel. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba.

2. Yr holl amser y buodd e'n frenin, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi ei ddysgu.

3. Ond er hynny wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol. Roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.

4. Dwedodd Joas wrth yr offeiriaid, “Cymrwch yr arian sydd wedi cael ei gysegru i'r deml – treth y cyfrifiad, y pris dalwyd am unigolion, a'r rhoddion gwirfoddol.

5. Yna defnyddiwch yr arian o'ch incwm i dalu am atgyweirio'r deml.”

6. Ond hyd yn oed ar ôl i Joas fod yn frenin am ddau ddeg tair o flynyddoedd, doedd yr offeiriaid yn dal ddim wedi atgyweirio'r deml.

7. Felly dyma'r brenin Joas yn galw Jehoiada a'r offeiriaid eraill i'w weld, a gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi ddim wedi atgyweirio'r deml? O hyn ymlaen dych chi ddim i gadw unrhyw arian sy'n cael ei roi i chi. Rhaid i'r cwbl fynd tuag at atgyweirio'r deml.”

8. Felly dyma'r offeiriaid yn cytuno i beidio cymryd mwy o arian gan y bobl, ac i roi heibio'r cyfrifoldeb i atgyweirio'r deml.

9. Dyma Jehoiada'r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe'n rhoi'r gist ar yr ochr dde i'r allor, wrth y fynedfa i'r deml. Roedd y porthorion yn rhoi'r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist.

20-21. Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.

2 Brenhinoedd 12