2 Brenhinoedd 12:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth Joas yn frenin yn ystod seithfed flwyddyn Jehw fel brenin Israel. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba.

2. Yr holl amser y buodd e'n frenin, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi ei ddysgu.

3. Ond er hynny wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol. Roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.

4. Dwedodd Joas wrth yr offeiriaid, “Cymrwch yr arian sydd wedi cael ei gysegru i'r deml – treth y cyfrifiad, y pris dalwyd am unigolion, a'r rhoddion gwirfoddol.

5. Yna defnyddiwch yr arian o'ch incwm i dalu am atgyweirio'r deml.”

20-21. Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.

2 Brenhinoedd 12