11. Yna dyma Jehw yn mynd ati i ladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, y rhai oedd wedi bod mewn swyddi amlwg yn ei lys, ei ffrindiau a'r offeiriaid oedd gydag e. Gafodd neb ei adael yn fyw.
12. Dyma Jehw yn cychwyn am Samaria. Ar y ffordd yno, wrth Beth-eced y Bugeiliaid,
13. dyma fe'n dod ar draws rhai o berthnasau Ahaseia, brenin Jwda. “Pwy ydych chi?” gofynnodd iddyn nhw.A dyma nhw'n ateb, “Perthnasau i Ahaseia. Dŷn ni ar ein ffordd i ymweld â plant y brenin a phlant y fam-frenhines.”
14. Yna dyma Jehw'n gorchymyn i'w filwyr, “Daliwch nhw'n fyw!” A dyma nhw'n eu dal nhw. Yna dyma nhw'n mynd â nhw at bydew Beth-eced a'i lladd nhw i gyd yno, pedwar deg dau ohonyn nhw.
15. Wrth adael y fan honno dyma Jehw yn dod ar draws Jonadab fab Rechab oedd wedi bod yn chwilio amdano. Dyma Jehw'n ei gyfarch a gofyn iddo, “Wyt ti'n fy nghefnogi i fel dw i ti?”“Ydw,” meddai Jonadab.“Felly rho dy law i mi,” meddai Jehw. Dyma fe'n estyn ei law, a dyma Jehw yn ei godi ato i'w gerbyd.
16. A dyma Jehw yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi, i ti gael gweld gymaint dw i ar dân dros yr ARGLWYDD.”A dyma Jonadab yn mynd gydag e yn ei gerbyd