2 Brenhinoedd 10:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd gan Ahab saith deg o feibion yn Samaria. Felly dyma Jehw yn anfon llythyrau at swyddogion ac arweinwyr Jesreel, ac at y rhai oedd yn gofalu am feibion Ahab. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:

2. “Mae meibion eich meistr i gyd gyda chi, ac mae gynnoch chi gerbydau a cheffylau, dinas gaerog ac arfau. Felly, pan dderbyniwch chi'r llythyr yma,

3. dewiswch chi y gorau a'r mwyaf abl o feibion eich meistr a'i wneud yn frenin yn lle ei dad. Ond yna byddwch barod i amddiffyn llinach eich meistr.”

4. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae dau frenin wedi methu ei stopio fe. Pa obaith sydd gynnon ni?” medden nhw.

5. Felly dyma bennaeth y palas, pennaeth y ddinas, yr arweinwyr a'r rhai oedd â gofal am deulu Ahab, yn anfon y neges yma at Jehw: “Dŷn ni am fod yn weision i ti! Dŷn ni'n fodlon gwneud beth bynnag rwyt ti eisiau. Dŷn ni'n bwriadu gwneud neb arall yn frenin. Gwna di beth ti'n feddwl sy'n iawn.”

2 Brenhinoedd 10