7. Yna dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Disgrifiwch y dyn i mi.”
8. A dyma nhw'n ateb, “Dyn blewog ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.”“Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”, meddai'r brenin.
9. A dyma fe'n anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda pum deg o ddynion i nôl Elias.Dyma'r capten yn dod o hyd i Elias yn eistedd ar ben bryn. A dyma fe'n mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”
10. Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna'n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o'r awyr a'i ladd e a'i filwyr.
11. Felly dyma'r brenin yn anfon capten arall gyda pum deg o ddynion i nôl Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”
12. Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a'i ladd e a'i filwyr.
13. Dyma'r brenin yn anfon trydydd capten gyda pum deg o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe'n mynd ar ei liniau o'i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma.
14. Mae tân wedi dod i lawr o'r awyr a lladd y ddau gapten cyntaf a'u dynion. Plîs arbed fy mywyd i!”
15. A dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin.