1 Timotheus 2:8-15 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i'r dynion sy'n gweddïo fyw bywydau sy'n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau.

9. A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig,

10. ond gwneud daioni. Dyna sy'n gwneud gwragedd sy'n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol.

11. Rhaid i wraig, wrth gael ei dysgu, fod yn dawel a dangos ei bod yn barod i ymostwng yn llwyr.

12. Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel.

13. Adda gafodd ei greu gyntaf, ac wedyn Efa.

14. A dim Adda gafodd ei dwyllo; y wraig oedd yr un gafodd ei thwyllo, a throseddu.

15. Ond byddai hi'n cael ei hachub drwy'r plentyn oedd i'w eni. Dylen nhw ddal ati i gredu, dangos cariad, byw bywydau glân a bod yn ddoeth.

1 Timotheus 2