1. O flaen popeth arall dw i'n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo'n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw.
2. Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus.
3. Mae gweddïo felly yn beth da i'w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi'n hachub ni.
4. Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.
5. Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn.
6. Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu'r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn.
7. A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy'n wir, a'r angen i gredu yn Iesu Grist. A'r gwir dw i'n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd!
8. Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i'r dynion sy'n gweddïo fyw bywydau sy'n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau.
9. A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig,