1 Timotheus 1:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol y Meseia Iesu – wedi fy anfon gan y Duw sy'n ein hachub ni, a'r Meseia, yr un mae'n gobaith ni ynddo.

2. Timotheus, rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni.

3. Fel y gwnes i pan roeddwn i'n teithio i dalaith Macedonia, dw i'n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy'n dysgu pethau sydd ddim yn wir,

4. yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu.

5. Y rheswm pam dw i'n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i'w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw'n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn.

6. Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw'n treulio eu hamser yn siarad nonsens!

7. Maen nhw'n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n sôn amdano er eu bod nhw'n siarad mor awdurdodol!

8. Dŷn ni'n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi'n cael ei thrin yn iawn.

1 Timotheus 1