8. Felly mae unrhyw un sy'n gwrthod gwrando ar hyn yn gwrthod Duw ei hun, sy'n rhoi ei Ysbryd i chi, ie, yr Ysbryd Glân. Dim ein rheolau ni ydy'r rhain!
9. Ond does dim rhaid i mi ddweud unrhyw beth am y cariad mae Cristnogion i'w ddangos at ei gilydd. Mae'n amlwg fod Duw ei hun – neb llai – wedi'ch dysgu chi i wneud hynny.
10. Dych chi wedi dangos cariad at Gristnogion talaith Macedonia i gyd, a dŷn ni am bwyso arnoch chi, ffrindiau, i ddal ati i wneud hynny fwy a mwy.
11. Dylech chi wneud popeth allwch chi i gael perthynas iach â phobl eraill. Dylech gynnal eich hunain a gweithio'n galed, yn union fel dwedon ni wrthoch chi.
12. Wedyn bydd pobl sydd ddim yn credu yn parchu'r ffordd dych chi'n byw, a fydd dim rhaid i chi ddibynnu ar neb arall i'ch cynnal chi.
13. A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy'n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru – does ganddyn nhw ddim gobaith.
14. Dŷn ni'n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni'n credu hefyd y bydd Duw yn dod â'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e'n dod yn ôl.
15. Yr Arglwydd ei hun sydd wedi dweud: fyddwn ni sy'n dal yn fyw, pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw.
16. Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o'r nefoedd. Bydd Duw'n rhoi'r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi'n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf.
17. Yna byddwn ni sy'n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda'r Arglwydd am byth.
18. Felly calonogwch eich gilydd gyda'r geiriau hyn.