1 Thesaloniaid 4:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn olaf, ffrindiau, fel cynrychiolwyr personol yr Arglwydd Iesu, dŷn ni eisiau pwyso arnoch chi i fyw mewn ffordd sy'n plesio Duw, fel y dysgon ni i chi. Dych chi yn gwneud hynny eisoes, ond dŷn ni am eich annog chi i ddal ati fwy a mwy.

2. Gwyddoch yn iawn beth ddwedon ni sydd raid i chi ei wneud. Roedden ni'n siarad ar ran yr Arglwydd Iesu ei hun:

3. Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy'n dangos eich bod chi'n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy'n anfoesol yn rhywiol.

4. Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol – parchu eich corff a bod yn gyfrifol –

5. yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy'n gadael i'w chwantau redeg yn wyllt.

6. Ddylai neb groesi'r ffiniau na manteisio ar Gristion arall yn hyn o beth. Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n pechu'n rhywiol – dŷn ni wedi'ch rhybuddio chi'n ddigon clir o hynny o'r blaen.

1 Thesaloniaid 4