7. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae'r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw'n ei wrthod; fi ydy'r un maen nhw wedi ei wrthod fel eu brenin.
8. Mae'r un hen stori eto! Maen nhw wedi gwneud hyn ers i mi ddod â nhw allan o wlad yr Aifft – fy ngwrthod i ac addoli duwiau eraill. A nawr rwyt ti'n cael yr un driniaeth.
9. Felly gwna beth maen nhw'n ofyn. Ond rhybuddia nhw'n glir, iddyn nhw ddeall y canlyniadau, a beth fydd y brenin yn ei wneud.”
10. Felly dyma Samuel yn dweud wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho.
11. Dwedodd, “Dyma sut fydd y brenin yn eich trin chi: Bydd yn cymryd eich meibion a'u gwneud nhw'n farchogion, i yrru ei gerbydau rhyfel ac i fod yn warchodwyr personol iddo.
12. Bydd yn gwneud rhai yn gapteiniaid ar unedau o fil neu o hanner cant. Bydd eraill yn gweithio ar ei dir e, ac yn casglu'r cnydau. Yna eraill eto yn gwneud arfau ac offer ar gyfer ei gerbydau rhyfel.
13. Bydd yn cymryd eich merched hefyd i gymysgu persawr, i goginio ac i bobi bara iddo.
14. Bydd yn cymryd eich caeau, a'ch gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau, a'u rhoi i'w swyddogion.
15. Bydd yn hawlio treth o un rhan o ddeg o'ch grawn a'ch gwin a'i roi i weision y palas a'r swyddogion eraill.
16. Bydd yn cymryd eich gweision a'ch morynion, eich gwartheg gorau a'ch asynnod i weithio iddo fe'i hun.
17. A bydd yn cymryd un o bob deg o'ch defaid a'ch geifr. Byddwch chi'n gaethweision iddo!
18. Bryd hynny byddwch chi'n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.”
19. Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin.