1 Samuel 8:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Bydd yn cymryd eich merched hefyd i gymysgu persawr, i goginio ac i bobi bara iddo.

14. Bydd yn cymryd eich caeau, a'ch gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau, a'u rhoi i'w swyddogion.

15. Bydd yn hawlio treth o un rhan o ddeg o'ch grawn a'ch gwin a'i roi i weision y palas a'r swyddogion eraill.

16. Bydd yn cymryd eich gweision a'ch morynion, eich gwartheg gorau a'ch asynnod i weithio iddo fe'i hun.

17. A bydd yn cymryd un o bob deg o'ch defaid a'ch geifr. Byddwch chi'n gaethweision iddo!

18. Bryd hynny byddwch chi'n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.”

19. Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin.

20. Dŷn ni eisiau bod yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd. Dŷn ni eisiau brenin i lywodraethu arnon ni, a'n harwain ni i ryfel.”

1 Samuel 8