1 Samuel 4:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai'r ddaear yn crynu!

6. Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, dyma nhw'n holi, “Pam maen nhw'n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw'n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i'r gwersyll.

7. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae'r duwiau wedi dod i'w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o'r blaen.

8. Mae hi ar ben arnon ni go iawn. Pwy sy'n mynd i'n hachub ni o afael y duwiau cryfion yma? Dyma'r duwiau wnaeth daro'r Eifftiaid mor ofnadwy yn yr anialwch.

9. Philistiaid, rhaid i chi fod yn ddewr! Byddwch yn ddynion! Neu byddwch chi'n mynd yn gaeth i'r Hebreaid fel buon nhw yn gaeth i chi. Byddwch yn ddynion, ac ymladd!”

10. Felly dyma'r Philistiaid yn ymosod ar Israel. Collodd Israel y frwydr, a dyma'r fyddin i gyd yn dianc am adre. Roedd lladdfa fawr. Cafodd tua tri deg mil o filwyr traed Israel eu lladd.

11. Cafodd Arch Duw ei chipio hefyd, a cafodd Hoffni a Phineas, meibion Eli, eu lladd.

12. Dyma ddyn o lwyth Benjamin yn rhedeg o'r frwydr a chyrraedd Seilo yr un diwrnod. Roedd wedi rhwygo ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben.

13. Pan gyrhaeddodd Seilo, roedd Eli'n eistedd ar gadair wrth ymyl y ffordd yn disgwyl am newyddion. Roedd yn poeni'n fawr am Arch Duw. Daeth y dyn i'r dre a pan ddwedodd beth oedd wedi digwydd dyma pawb yn dechrau wylo yn uchel.

14. Pan glywodd Eli yr holl sŵn, gofynnodd, “Beth ydy'r holl gyffro yna?” Yna dyma'r dyn yn brysio draw i ddweud yr hanes wrth Eli

15. (oedd yn naw deg wyth mlwydd oed ac yn ddall.)

1 Samuel 4