13. Pan gyrhaeddodd Seilo, roedd Eli'n eistedd ar gadair wrth ymyl y ffordd yn disgwyl am newyddion. Roedd yn poeni'n fawr am Arch Duw. Daeth y dyn i'r dre a pan ddwedodd beth oedd wedi digwydd dyma pawb yn dechrau wylo yn uchel.
14. Pan glywodd Eli yr holl sŵn, gofynnodd, “Beth ydy'r holl gyffro yna?” Yna dyma'r dyn yn brysio draw i ddweud yr hanes wrth Eli
15. (oedd yn naw deg wyth mlwydd oed ac yn ddall.)
16. “Dw i wedi dianc o'r frwydr,” meddai'r dyn, “gwnes i ddianc oddi yno heddiw.”“Sut aeth pethau, machgen i?” holodd Eli.
17. A dyma'r negesydd yn ateb, “Mae Israel wedi ffoi o flaen y Philistiaid, ac mae llawer iawn wedi cael eu lladd. Mae dy ddau fab di, Hoffni a Phineas, wedi eu lladd, ac mae Arch Duw wedi cael ei chipio.”
18. Pan glywodd Eli am Arch Duw syrthiodd wysg ei gefn oddi ar ei gadair wrth ymyl y giât. Am ei fod mor hen, ac yn ddyn mawr trwm, torrodd ei wddf a marw. Roedd wedi arwain Israel am bedwar deg o flynyddoedd.
19. Roedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phineas, yn disgwyl plentyn ac yn agos iawn i'w hamser. Pan glywodd hi'r newyddion fod Arch Duw wedi ei chipio a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw, plygodd yn ei dyblau am fod y plentyn yn dechrau dod. Ond roedd y poenau yn ormod iddi.
20. Pan oedd hi ar fin marw, dwedodd y merched oedd gyda hi, “Paid bod ag ofn, rwyt ti wedi cael mab!” Ond wnaeth hi ddim ymateb na chymryd unrhyw sylw.
21. A dyma hi'n rhoi'r enw Ichabod i'r babi. “Mae ysblander Duw wedi gadael Israel,” meddai (am fod Arch Duw wedi ei chipio a'i thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw.)
22. “Mae ysblander Duw wedi gadael Israel, achos mae Arch Duw wedi ei chipio,” meddai.