9. Felly i ffwrdd a Dafydd, a'i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw'n cyrraedd Wadi Besor, a dyma rai o'r dynion yn aros yno.
10. Aeth Dafydd yn ei flaen gyda pedwar cant o'r dynion. (Roedd dau gant wedi aros ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor.)
11. Dyma nhw'n dod o hyd i ddyn o'r Aifft mewn cae, a mynd â fe at Dafydd. Dyma nhw'n rhoi ychydig o fwyd iddo a diod o ddŵr.
12. Wedyn dyma nhw'n rhoi bar o ffigys a dau lond dwrn o rhesins iddo, a daeth ato'i hun. Doedd e ddim wedi cael dim byd i'w fwyta na'i yfed ers tri diwrnod.
13. Dyma Dafydd yn ei holi, “O ble ti'n dod? Pwy ydy dy feistr di?” A dyma'r bachgen yn ateb, “Dw i'n dod o'r Aifft ac yn gaethwas i un o'r Amaleciaid. Gadawodd fy meistr fi yma dridiau yn ôl am fy mod i'n sâl.
14. Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid, ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.”
15. Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei di'n harwain ni at yr ymosodwyr yma?” A dyma fe'n ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw y gwnei di ddim fy lladd i, na'm rhoi i yn ôl i'm meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.”
16. Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bob man. Roedden nhw'n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda.
17. Yna cyn i'r wawr dorri dyma Dafydd a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhw'n ymladd drwy'r dydd nes oedd hi'n dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod.
18. Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig.
19. Doedd neb ar goll, o'r ifancaf i'r hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd yn ôl bawb a phopeth oedd wedi ei ddwyn.
20. Yna cymerodd Dafydd y defaid a'r gwartheg a'u gyrru nhw o flaen gweddill yr anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!”
21. Yna aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig i'w ddilyn. Dyma'r dynion yn dod allan i'w gyfarfod e a'i filwyr. Pan ddaeth atyn nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch.
22. Ond roedd yna rai dynion drwg am godi stŵr ymhlith y rhai aeth gyda Dafydd, a dyma nhw'n dweud, “Pam ddylai'r rhain gael siâr o'r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Caiff pob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a'i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!”
23. Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i ni! Fe wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoi'r dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael ni.
24. Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Yr un fydd siâr y rhai aeth i ymladd a'r rhai arhosodd gyda'r offer. Dylen nhw rannu'n deg gyda'i gilydd.”
25. A dyna'r rheol a'r drefn yn Israel hyd heddiw.
26. Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe'n anfon peth o'r ysbail i arweinwyr Jwda roedd e'n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai.
27. Anfonodd beth i'r lleoedd canlynol: Bethel, Ramoth yn y Negef, a Iattir;
28. Aroer, Siffmoth, Eshtemoa,