1 Samuel 30:23-31 beibl.net 2015 (BNET)

23. Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i ni! Fe wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoi'r dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael ni.

24. Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Yr un fydd siâr y rhai aeth i ymladd a'r rhai arhosodd gyda'r offer. Dylen nhw rannu'n deg gyda'i gilydd.”

25. A dyna'r rheol a'r drefn yn Israel hyd heddiw.

26. Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe'n anfon peth o'r ysbail i arweinwyr Jwda roedd e'n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai.

27. Anfonodd beth i'r lleoedd canlynol: Bethel, Ramoth yn y Negef, a Iattir;

28. Aroer, Siffmoth, Eshtemoa,

29. a Rachal; trefi'r Ierachmeëliaid a'r Ceneaid;

30. Horma, Bor-ashan, Athach,

31. a Hebron; ac i bobman arall roedd e wedi bod gyda'i ddynion o bryd i'w gilydd.

1 Samuel 30