1-2. Roedd y bachgen Samuel yn dal i wasanaethu'r ARGLWYDD gydag Eli, oedd erbyn hynny wedi dechrau colli ei olwg ac yn mynd yn ddall. Yr adeg yna doedd pobl ddim yn cael neges gan Dduw yn aml, nac yn cael gweledigaethau. Ond digwyddodd rhywbeth un noson, tra roedd Eli'n cysgu yn ei ystafell.
3. Doedd lamp Duw ddim wedi diffodd, ac roedd Samuel hefyd yn cysgu yn y deml lle roedd Arch Duw.
4. Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel, a dyma Samuel yn ateb, “Dyma fi,”
5. yna rhedeg at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti alw.”Ond dyma Eli'n ateb, “Naddo, wnes i ddim dy alw di, dos yn ôl i gysgu.” Felly aeth Samuel yn ôl i orwedd.
6. Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel eto. Cododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti ngalw i.”“Naddo, machgen i,” meddai Eli, “wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.”
7. (Roedd hyn i gyd cyn i Samuel ddod i nabod yr ARGLWYDD. Doedd e erioed wedi cael neges gan Dduw o'r blaen.)
8. Galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel y trydydd tro; a dyma Samuel yn mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti fy ngalw i.”Dyna pryd sylweddolodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
9. A dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’”Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl orwedd i lawr.
10. A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato eto, a galw arno fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”
11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel, “Dw i yn mynd i wneud rhywbeth yn Israel fydd yn sioc ofnadwy i bawb fydd yn clywed am y peth.
12. Mae popeth dw i wedi sôn wrth Eli amdano – popeth ddywedais i fyddai'n digwydd i'w deulu – yn mynd i ddod yn wir!