19. Gad i'm meistr y brenin wrando ar beth sydd gan dy was i'w ddweud. Os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy annog di i wneud hyn, dylai gael ei offrwm. Ond os mai pobl feidrol wnaeth, byddan nhw'n cael eu melltithio ganddo! Maen nhw wedi fy ngyrru i allan o dir yr ARGLWYDD ei hun, fel petaen nhw'n dweud, ‘Dos i addoli duwiau eraill!’
20. Paid gadael i mi farw mewn gwlad arall, yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD! Mae brenin Israel yn chwilio am chwannen! Mae fel rhywun sy'n hela petris yn y bryniau!”
21. Yna dyma Saul yn ateb, “Dw i ar fai. Tyrd yn ôl Dafydd, machgen i. Wna i ddim niwed i ti eto. Ti wedi arbed fy mywyd i heddiw. Dw i wedi bod yn wirion ac wedi gwneud camgymeriad mawr!”
22. Atebodd Dafydd, “Dyma waywffon y brenin. Gad i un o'r bechgyn ddod draw i'w nôl hi.
23. Mae'r ARGLWYDD yn talu i ddyn am fod yn onest ac yn ffyddlon. Rhoddodd gyfle i mi dy ladd di heddiw, ond doeddwn i ddim yn fodlon gwneud niwed i'r dyn mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin.
24. Fel gwnes i arbed dy fywyd di, boed i'r ARGLWYDD arbed fy mywyd i a'm hachub o bob helynt.”
25. A dyma Saul yn ei ateb, “Bendith arnat ti Dafydd, machgen i. Does dim amheuaeth dy fod ti'n mynd i lwyddo.”Yna dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd ac aeth Saul yn ôl adre.