1 Samuel 26:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn ei daro. Naill ai bydd ei amser yn dod a bydd e'n marw, neu bydd e'n mynd i ryfel ac yn cael ei ladd.

11. Duw am helpo rhag i mi wneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin! Tyrd, cymer y waywffon sydd wrth ei ben, a'i botel ddŵr, a gad i ni fynd o ma.”

12. Felly dyma Dafydd yn cymryd y waywffon a'r botel ddŵr oedd wrth ben Saul, a dianc heb i neb weld na chlywed dim, na hyd yn oed troi yn ei gwsg. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud iddyn nhw i gyd gysgu'n drwm.

13. Aeth Dafydd yn ôl i'r ochr draw a sefyll ar gopa'r mynydd, yn ddigon pell oddi wrth wersyll Saul.

14. Yna dyma fe'n gweddi ar y fyddin ac ar Abner fab Ner. “Wyt ti ddim am ateb, Abner?” meddai. “Pwy sydd yna'n galw ar y brenin?” meddai Abner.

15. “Dwyt ti ddim llawer o ddyn!” meddai Dafydd. “Ro'n i'n meddwl mai ti oedd pennaeth byddin Israel! Pam wyt ti ddim wedi gwarchod dy feistr? Daeth un o'm milwyr draw acw i'w ladd e – dy feistr di, ie, dy frenin di!

16. Wnest ti ddim job dda iawn. Dych chi i gyd yn haeddu marw am beidio amddiffyn eich meistr, yr un wnaeth yr ARGLWYDD ei eneinio'n frenin. Dos i edrych ble mae gwaywffon y brenin, a'r botel ddŵr oedd wrth ei ben!”

17. Dyma Saul yn nabod llais Dafydd. “Ai ti sydd yna Dafydd, machgen i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “Ie, fy meistr y brenin, fi sydd yma.

18. Pam wyt ti wedi dod ar fy ôl i, syr? Be dw i wedi ei wneud? Pa ddrwg wnes i?

19. Gad i'm meistr y brenin wrando ar beth sydd gan dy was i'w ddweud. Os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy annog di i wneud hyn, dylai gael ei offrwm. Ond os mai pobl feidrol wnaeth, byddan nhw'n cael eu melltithio ganddo! Maen nhw wedi fy ngyrru i allan o dir yr ARGLWYDD ei hun, fel petaen nhw'n dweud, ‘Dos i addoli duwiau eraill!’

20. Paid gadael i mi farw mewn gwlad arall, yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD! Mae brenin Israel yn chwilio am chwannen! Mae fel rhywun sy'n hela petris yn y bryniau!”

1 Samuel 26