1 Samuel 26:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma bobl Siff yn mynd i Gibea i weld Saul eto, a dweud wrtho fod Dafydd yn cuddio ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon.

2. Felly, dyma Saul yn mynd i lawr i anialwch Siff, gyda thair mil o filwyr gorau Israel, i chwilio am Dafydd.

3. Dyma Saul yn codi gwersyll wrth y ffordd fawr ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon, ond roedd Dafydd allan yn yr anialwch. Pan glywodd Dafydd fod Saul wedi dod ar ei ôl,

4. dyma fe'n anfon ysbiwyr i wneud yn berffaith siŵr fod Saul yno.

5. Yna dyma Dafydd yn mynd draw i'r lle roedd Saul a'i filwyr yn gwersylla. Gwelodd ble roedd Saul ac Abner fab Ner (capten ei fyddin) yn cysgu. Roedd Saul yn y canol, a'i filwyr wedi gwersylla o'i gwmpas.

6. Gofynnodd Dafydd i Achimelech yr Hethiad, ac i frawd Joab, sef Abishai fab Serwia, “Pwy sydd am ddod i lawr gyda mi i wersyll Saul?” A dyma Abishai yn ateb, “Dof i hefo ti.”

7. Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i gwmpas.

8. “Mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy afael di heddiw,” meddai Abishai wrth Dafydd. “Gad i mi ei drywanu a'i hoelio i'r ddaear gyda'r waywffon. Un ergyd fydd ei angen.”

9. Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Na, paid â'i ladd! Alli di ddim gwneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin ac aros yn ddieuog!

1 Samuel 26