1 Samuel 25:10-23 beibl.net 2015 (BNET)

10. iddo ateb. Yna meddai Nabal. “Dafydd? Pwy mae e'n feddwl ydy e? Mab Jesse? Mae yna gymaint o weision yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu meistri y dyddiau yma!

11. Pam ddylwn i roi fy mara, a'm dŵr a'm cig, sydd wedi ei baratoi i'r cneifwyr, i ryw griw ddynion dw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw?”

12. Felly dyma weision Dafydd yn mynd yn ôl, a dweud y cwbl wrtho. Pan glywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd,

13. dyma fe'n rhoi gorchymyn i'w ddynion, “Pawb i wisgo'i gleddyf!” Ac wedi iddyn nhw i gyd wneud hynny, dyma tua pedwar cant ohonyn nhw'n mynd gyda Dafydd, gan adael dau gant ar ôl gyda'r offer.

14. Yn y cyfamser roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o'r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe'n gweiddi a rhegi arnyn nhw.

15. Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda'n gilydd yng nghefn gwlad.

16. Roedden nhw fel wal o'n cwmpas ni yn ein hamddiffyn ni nos a dydd, yr holl amser y buon ni'n gofalu am y defaid yn yr ardal honno.

17. Rhaid i ti feddwl am rywbeth, neu trychineb sy'n aros y meistr a'i deulu i gyd. Ond mae e'n greadur mor gas, does dim pwynt i neb ddweud dim wrtho fe!”

18. Dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a'i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi eu paratoi, pum sachaid o rawn wedi ei grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys.

19. Yna dyma hi'n dweud wrth ei gweision, “Ewch chi o'm blaen i. Dof fi ar eich ôl.” Ond ddwedodd hi ddim wrth ei gŵr Nabal.

20. Roedd hi'n marchogaeth ar gefn asyn ac yn pasio heibo yng nghysgod y mynydd pan ddaeth Dafydd a'i ddynion i'w chyfarfod o'r cyfeiriad arall.

21. Roedd Dafydd wedi bod yn meddwl, “Roedd hi'n wastraff amser llwyr i mi warchod eiddo'r dyn yna yn yr anialwch! Gymerais i ddim oddi arno, a dyma fe nawr yn talu drwg am dda i mi.

22. Boed i Dduw ddial arna i os gwna i adael un o'i ddynion e yn dal yn fyw erbyn y bore!”

23. Pan welodd Abigail Dafydd, dyma hi'n disgyn oddi ar ei hasyn ar frys. Dyma hi'n mynd ar ei gliniau ac ymgrymu ar lawr o'i flaen.

1 Samuel 25