1 Samuel 23:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Clywodd Dafydd fod y Philistiaid wedi ymosod ar Ceila, ac yn dwyn ŷd o'r lloriau dyrnu.

2. A dyma fe'n gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymosod ar y Philistiaid yma?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos. Ymosod ar y Philistiaid ac achub Ceila.”

3. Ond dyma ddynion Dafydd yn dweud wrtho, “Mae arnon ni ddigon o ofn yma yn Jwda! Sut fydd hi os awn ni i Ceila i ymladd yn erbyn byddin y Philistiaid?”

4. Aeth Dafydd i ofyn i'r ARGLWYDD eto. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r un ateb iddo, “Cod, a dos i lawr i Ceila, achos bydda i'n gwneud i ti ennill y frwydr yn erbyn y Philistiad.”

5. Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd i Ceila ac ymladd yn erbyn y Philistiaid, a dwyn eu gwartheg nhw. Roedd lladdfa ofnadwy, ond llwyddodd Dafydd i achub pobl Ceila.

6. Pan oedd Abiathar, mab Achimelech, wedi dianc at Dafydd, roedd wedi dod ag effod gydag e.

7. Clywodd Saul fod Dafydd wedi dod i Ceila, a dwedodd, “Mae Duw wedi ei roi e yn fy nwylo i! Mae e wedi cau ei hun mewn trap drwy fynd i dref sydd â giatiau dwbl a barrau i'w cloi.”

8. Felly dyma Saul yn galw ei fyddin gyfan at ei gilydd, i fynd i Ceila i warchae ar Dafydd a'i ddynion.

9. Pan glywodd Dafydd fod Saul yn cynllunio i ymosod arno, dyma fe'n galw ar Abiathar yr offeiriad, “Tyrd â'r effod yma.”

10. Yna dyma fe'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrio'r dre am fy mod i yma.

11. Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi yn ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.”A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e yn dod.”

12. A dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm dynion i Saul?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.”

1 Samuel 23