1 Samuel 22:14-23 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dyma Achimelech yn ateb y brenin, “Pwy o dy holl weision di sy'n fwy ffyddlon i ti na Dafydd? Dy fab-yng-nghyfraith di ydy e! Capten dy warchodlu di! Mae e'n uchel ei barch gan bawb yn dy balas.

15. Ai dyna'r tro cyntaf i mi weddïo am arweiniad Duw iddo? Wrth gwrs ddim! Ddylai'r brenin ddim fy nghyhuddo i, na neb arall o'm teulu, o wneud dim o'i le. Doeddwn i'n gwybod dim byd o gwbl am y peth.”

16. Ond dyma'r brenin yn ateb, “Rhaid i ti a dy deulu i gyd farw Achimelech!”

17. Yna dyma fe'n dweud wrth y milwyr oedd o'i gwmpas, “Daliwch yr offeiriaid a lladdwch nhw, achos maen nhw ar ochr Dafydd! Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n dianc, ond wnaethon nhw ddim dweud wrtho i.” Ond doedd y milwyr ddim yn fodlon ymosod ar offeiriaid yr ARGLWYDD.

18. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Doeg, “Ti! Ymosod di arnyn nhw a'u lladd nhw.” Felly dyma Doeg, oedd o wlad Edom, yn mynd allan a'u taro nhw. Lladdodd Doeg wyth deg pump o offeiriaid allai wisgo effod o liain y diwrnod hwnnw.

19. Wedyn aeth i ymosod ar dref Nob, lle roedd yr offeiriaid yn byw, a lladd pawb yno hefyd – dynion a merched, plant a babis bach, a hyd yn oed y gwartheg, yr asynnod a'r defaid.

20. Ond dyma un o feibion Achimelech yn llwyddo i ddianc, sef Abiathar. Aeth at Dafydd

21. a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD.

22. “Pan welais i Doeg y diwrnod hwnnw,” meddai Dafydd, “ron ni'n gwybod y byddai'n siŵr o ddweud wrth Saul. Arna i mae'r bai fod dy deulu di i gyd wedi cael eu lladd.

23. Aros di gyda mi. Paid bod ag ofn. Mae'r un sydd eisiau fy ladd i yn mynd i fod eisiau dy ladd di hefyd. Ond byddi'n saff yma hefo fi.”

1 Samuel 22