1. Felly dyma Dafydd yn dianc o Gath a mynd i Ogof Adwlam. Pan glywodd ei frodyr a'i deulu ei fod yno dyma nhw'n mynd ato.
2. Roedd pawb oedd mewn helynt yn ymuno gydag e hefyd, a rhai oedd mewn dyled, neu gyda chwyn o ryw fath. Roedd tua 400 ohonyn nhw i gyd, a Dafydd yn eu harwain nhw.
3. Aeth Dafydd ymlaen o'r fan honno i Mitspe yn Moab. Gofynnodd i frenin Moab, “Plîs wnei di adael i dad a mam aros yma, nes bydda i yn gwybod be mae Duw am ei wneud i mi?”
4. Felly aeth â nhw i aros at frenin Moab, a buon nhw'n aros gydag e yr holl amser roedd Dafydd yn y gaer.
5. Yna dyma Gad, y proffwyd, yn rhybuddio Dafydd, “Paid aros yn ei gaer. Dos yn ôl i wlad Jwda.” Felly dyma Dafydd yn mynd i Goedwig Chereth.
6. Clywodd Saul fod Dafydd a'r dynion oedd gydag e wedi cael eu gweld. Roedd Saul yn Gibea yn eistedd o dan y goeden tamarisg ar ben y bryn, gyda'i waywffon yn ei law a'i swyddogion o'i gwmpas.