8. Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Ro'n i ar gymaint o frys i ufuddhau i'r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.”
9. “Mae cleddyf Goliath yma – y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela,” meddai'r offeiriad. “Mae wedi ei lapio mewn clogyn tu ôl i'r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy'r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.”
10. Felly dyma Dafydd yn mynd yn ei flaen y diwrnod hwnnw, a ffoi oddi wrth Saul at Achis brenin Gath.
11. Ond dyma swyddogion Achis yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw'n canu wrth ddawnsio:‘Mae Saul wedi lladd miloedd,ond Dafydd ddegau o filoedd.’?”
12. Roedd beth ddwedon nhw yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achis, brenin Gath, yn ei wneud iddo?