2. A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig.
3. Nawr, beth alli di ei roi i mi? Rho bum torth i mi, neu faint bynnag sydd gen ti.”
4. Ond dyma'r offeiriad yn ateb, “Does gen i ddim bara cyffredin o gwbl, dim ond bara sydd wedi ei gysegru i Dduw. Cei hwnnw gen i os ydy'r milwyr ddim wedi cysgu gyda merched neithiwr.”
5. “Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy'r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly'n sicr ddim heddiw, pan maen nhw wedi cysegru eu hunain a'u harfau.”
6. Felly dyma'r offeiriad yn rhoi'r bara cysegredig iddo. Doedd ganddo ddim bara arall i'w gynnig. Dyma'r bara oedd wedi cael ei gymryd oddi ar y bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD, i fara ffres gael ei osod yn ei le pan oedd hi'n amser gwneud hynny.
7. Roedd un o weision Saul yn digwydd bod yno y diwrnod hwnnw. Doedd e ddim yn gallu gadael am ei fod wedi mynd ar lw i'r ARGLWYDD. Doeg oedd ei enw ac roedd yn dod o Edom, a fe oedd fforman bugeiliaid Saul.
8. Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Ro'n i ar gymaint o frys i ufuddhau i'r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.”