1 Samuel 21:11-15 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ond dyma swyddogion Achis yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw'n canu wrth ddawnsio:‘Mae Saul wedi lladd miloedd,ond Dafydd ddegau o filoedd.’?”

12. Roedd beth ddwedon nhw yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achis, brenin Gath, yn ei wneud iddo?

13. Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o'u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e'n crafu drysau'r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf.

14. Dyma Achis yn dweud wrth ei swyddogion, “Edrychwch mae'r dyn yn wallgof! Pam ddaethoch chi ag e ata i?

15. Mae gen i ddigon o ffyliaid o'm cwmpas i heb i chi ddod â hwn i actio'r ffŵl o'm blaen i! Ewch â fe i ffwrdd o'r palas!”

1 Samuel 21