29. ‘Mae'n ddiwrnod aberthu i'n teulu ni,’ meddai, ‘ac mae fy mrawd wedi dweud fod rhaid i mi fod yno. Plîs gad i mi fynd i weld fy mrodyr.’ Dyna pam dydy e ddim yma i fwyta gyda'r brenin.”
30. Dyma Saul yn gwylltio'n lân gyda Jonathan. “Y bastard dwl!” meddai wrtho. “Ro'n ni'n gwybod dy fod ti ar ei ochr e. Ti'n codi cywilydd arnat ti dy hun a dy fam.
31. Tra bydd mab Jesse yn dal yn fyw fyddi di byth yn frenin. Nawr, anfon i'w nôl e. Tyrd ag e ata i. Mae'n rhaid iddo farw!”
32. Dyma Jonathan yn ateb ei dad, “Pam wyt ti eisiau ei ladd e? Be mae wedi ei wneud o'i le?”
33. Yna dyma Saul yn taflu ei waywffon at Jonathan gan fwriadu ei daro. Felly roedd yn gwybod yn iawn bellach fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.
34. Cododd Jonathan, a gadael y bwrdd. Roedd wedi gwylltio'n lân. Wnaeth e fwyta dim byd o gwbl y diwrnod hwnnw. Roedd wedi ypsetio'n lân am agwedd ei dad at Dafydd.
35. Y bore wedyn dyma Jonathan yn mynd i'r cae i gyfarfod Dafydd. Aeth â bachgen ifanc gydag e.
36. Dwedodd wrth y bachgen, “Rheda i nôl y saethau wrth i mi eu saethu.” Tra roedd y bachgen yn rhedeg dyma fe'n saethu un y tu draw iddo.
37. Pan gyrhaeddodd y bachgen lle roedd y saeth wedi disgyn, dyma Jonathan yn gweiddi ar ei ôl, “Hei, ydy'r saeth ddim yn bellach draw?”
38. A dyma Jonathan yn gweiddi arno eto, “Brysia! Dos yn dy flaen! Paid loetran!” A dyma'r bachgen yn casglu'r saeth a mynd yn ôl at ei feistr.
39. (Doedd y bachgen ddim yn deall o gwbl. Dim ond Jonathan a Dafydd oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd.)