21. Wedyn pan fydda i'n anfon gwas i nôl y saethau, os bydda i'n dweud, ‘Edrych, mae'r saethau yr ochr yma i ti. Dos i'w nôl nhw,’ yna gelli ddod yn ôl. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw byddi'n saff, does yna ddim peryg.
22. Ond os bydda i'n dweud wrth y bachgen, ‘Edrych, mae'r saethau yn bellach draw,’ yna, rhaid i ti ddianc. Yr ARGLWYDD fydd wedi dy anfon di i ffwrdd.
23. Mae'r ARGLWYDD yn dyst i bopeth dŷn ni wedi ei addo i'n gilydd.”
24. Felly dyma Dafydd yn mynd i guddio yn y cae.Ar Ŵyl y lleuad newydd dyma'r brenin Saul yn eistedd i fwyta.
25. Eisteddodd yn ei le arferol, wrth y wal, gyda Jonathan gyferbyn ag e, ac Abner wrth ei ymyl. Ond roedd lle Dafydd yn wag.
26. Ddwedodd Saul ddim byd y diwrnod hwnnw. Roedd e'n meddwl falle fod rhywbeth wedi digwydd fel bod Dafydd ddim yn lân yn seremonïol.
27. Ond y diwrnod wedyn (sef ail ddiwrnod Gŵyl y lleuad newydd) roedd sedd Dafydd yn dal yn wag. A dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Pam nad ydy mab Jesse wedi dod i fwyta ddoe na heddiw?”
28. Atebodd Jonathan, “Roedd Dafydd yn crefu arna i adael iddo fynd i Fethlehem.
29. ‘Mae'n ddiwrnod aberthu i'n teulu ni,’ meddai, ‘ac mae fy mrawd wedi dweud fod rhaid i mi fod yno. Plîs gad i mi fynd i weld fy mrodyr.’ Dyna pam dydy e ddim yma i fwyta gyda'r brenin.”
30. Dyma Saul yn gwylltio'n lân gyda Jonathan. “Y bastard dwl!” meddai wrtho. “Ro'n ni'n gwybod dy fod ti ar ei ochr e. Ti'n codi cywilydd arnat ti dy hun a dy fam.
31. Tra bydd mab Jesse yn dal yn fyw fyddi di byth yn frenin. Nawr, anfon i'w nôl e. Tyrd ag e ata i. Mae'n rhaid iddo farw!”