1. Dyma Dafydd yn dianc o gymuned y proffwydi yn Rama a mynd i weld Jonathan. “Be dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai. “Sut ydw i wedi pechu? Be dw i wedi ei wneud i ddigio dy dad gymaint? Mae e'n trïo fy lladd i!”
2. “Na, byth!” meddai Jonathan. “Wnei di ddim marw. Dydy dad yn gwneud dim byd heb adael i mi wybod. Pam fyddai e'n cuddio'r peth oddi wrtho i? Dydy hyn ddim yn wir.”
3. Ond roedd Dafydd yn taeru. “Mae dy dad yn gwybod yn iawn gymaint o ffrindiau ydyn ni. Mae'n rhaid ei fod e'n meddwl, ‘Alla i ddim dweud wrth Jonathan, neu bydd e wedi ypsetio.’ Does dim amheuaeth am y peth, dw i o fewn dim i farw.”
4. Felly dyma Jonathan yn dweud wrtho, “Dywed be alla i wneud i ti.”
5. Atebodd Dafydd, “Mae'n Ŵyl y lleuad newydd fory, ac mae disgwyl i mi fod yn bwyta gyda'r brenin. Ond rho di ganiatâd i mi fynd i ffwrdd i guddio yn y wlad am ddeuddydd.
6. Os bydd dy dad yn fy ngholli i, dywed wrtho, ‘Roedd Dafydd wedi pledio'n daer arna i i roi caniatâd iddo fynd adre i Fethlehem, am ei bod yn ddiwrnod aberth blynyddol y clan.’
7. Os bydd e'n dweud, ‘Popeth yn iawn,’ yna dw i, dy was di, yn saff. Ond os bydd e'n colli ei dymer byddi'n gwybod ei fod e am wneud drwg i mi.
8. Aros yn driw i mi, achos rwyt ti wedi ymrwymo i mi o flaen yr ARGLWYDD. Ond os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, lladd fi dy hun. Waeth i ti hynny na mynd â fi at dy dad!”
9. Atebodd Jonathan, “Paid siarad fel yna! Petawn i'n gwybod fod dad yn bwriadu gwneud niwed i ti, byddwn i'n siŵr o ddweud wrthot ti.”
10. Yna dyma Dafydd yn gofyn i Jonathan, “Pwy sy'n mynd i ddweud wrtho i os bydd dy dad wedi colli ei dymer hefo ti?”