9. Mae e'n gofalu am y rhai sy'n ffyddlon iddo,ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch,achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.
10. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio,bydd e'n taranu o'r nefoedd yn eu herbyn.Yr ARGLWYDD sy'n barnu'r byd i gyd.Mae'n rhoi grym i'w frenin,a buddugoliaeth i'r un mae wedi ei ddewis.”
11. Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu'r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad.
12. Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.
13. Beth oedd yr offeiriaid i fod i'w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth oedd hyn: Wrth iddyn nhw ferwi'r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â tair pig iddi yn ei law.