1 Samuel 2:26-36 beibl.net 2015 (BNET)

26. Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio'r ARGLWYDD a phobl.

27. Daeth dyn oedd yn proffwydo at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo.

28. Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario'r effod o'm blaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'w llosgi i mi.

29. Felly, pam dych chi'n difrïo'r aberthau a'r offrymau dw i wedi rhoi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti'n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi'n stwffio'ch hunain gyda'r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’

30. “Felly, dyma neges yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Do, gwnes i ddweud yn glir y byddai dy deulu di yn cael fy ngwasanaethu i am byth. Ond bellach fydd ddim o'r fath beth!’ Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dw i'n rhoi parch i'r rhai sy'n fy mharchu i, ac yn ddibris o'r rhai sy'n fy nghymryd i yn ysgafn.

31. Gwylia di, mae'r amser yn dod pan fydda i'n dy ddifa di a dy deulu. Fydd yna neb yn dy deulu di yn byw i fod yn hen!

32. Byddi'n gweld helynt yn fy nghysegr i. Bydd pethau da yn digwydd i Israel, ond fydd neb yn byw i fod yn hen yn dy deulu di.

33. Bydda i'n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw'n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc.

34. “‘A dyma'r arwydd i brofi i ti fod hyn yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod!

35. Wedyn bydda i'n dewis offeiriad sy'n ffyddlon i mi. Bydd e'n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i'n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e'n gwasanaethu'r un fydda i'n ei eneinio'n frenin am byth.

36. Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o'i flaen i ofyn am arian neu damaid i'w fwyta. Byddan nhw'n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i'w fwyta.’”

1 Samuel 2