19. Roedd ei fam yn arfer gwneud mantell fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a'i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno eu haberth.
20. Byddai Eli yn bendithio Elcana a'i wraig, a dweud, “Boed i'r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi ei fenthyg iddo.” Yna bydden nhw'n mynd yn ôl adre.
21. A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch.Yn y cyfamser roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD.
22. Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai'n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e'n gwybod hefyd eu bod nhw'n cael rhyw gyda'r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.)
23. Byddai'n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n bihafio fel yma? Dw i'n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.
24. Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy'r straeon sy'n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda.
25. Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy'n mynd i'w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw.
26. Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio'r ARGLWYDD a phobl.
27. Daeth dyn oedd yn proffwydo at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo.
28. Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario'r effod o'm blaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'w llosgi i mi.