1 Samuel 2:11-28 beibl.net 2015 (BNET)

11. Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu'r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad.

12. Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.

13. Beth oedd yr offeiriaid i fod i'w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth oedd hyn: Wrth iddyn nhw ferwi'r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â tair pig iddi yn ei law.

14. Byddai'n gwthio'r fforch i'r badell, y fasged neu'r crochan, a beth bynnag fyddai'r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad.Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn:

15. Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi'r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o'r cig i'r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi ei ferwi, dim ond cig ffres.”

16. Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i'r braster gael ei losgi gynta, yna cei di gymryd beth bynnag wyt ti'n ei ffansïo,” byddai'r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i'n defnyddio grym.”

17. Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma'n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i'r ARGLWYDD.

18. Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac yn gwisgo effod o liain main.

19. Roedd ei fam yn arfer gwneud mantell fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a'i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno eu haberth.

20. Byddai Eli yn bendithio Elcana a'i wraig, a dweud, “Boed i'r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi ei fenthyg iddo.” Yna bydden nhw'n mynd yn ôl adre.

21. A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch.Yn y cyfamser roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD.

22. Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai'n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e'n gwybod hefyd eu bod nhw'n cael rhyw gyda'r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.)

23. Byddai'n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n bihafio fel yma? Dw i'n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.

24. Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy'r straeon sy'n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda.

25. Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy'n mynd i'w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw.

26. Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio'r ARGLWYDD a phobl.

27. Daeth dyn oedd yn proffwydo at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo.

28. Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario'r effod o'm blaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'w llosgi i mi.

1 Samuel 2