1 Samuel 2:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn:“Dw i mor falch o'r ARGLWYDD.Gallaf godi fy mhena chwerthin ar fy ngelynion,am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub.

2. Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD.Does neb tebyg i ti.Does neb yn graig sy'n amddiffyn fel ein Duw ni.

3. Peidiwch brolio'ch hunaina siarad mor snobyddlyd,oherwydd mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n gwybod popeth,ac mae'n barnu popeth sy'n cael ei wneud.

4. Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri,ond bydd y rhai sy'n baglu yn cael nerth.

5. Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta,ond bydd y rhai sy'n llwgu yn cael eu llenwi.Bydd y wraig sy'n methu cael plant yn cael saith,ond yr un sydd â llawer yn llewygu.

6. Yr ARGLWYDD sy'n lladd a rhoi bywyd.Fe sy'n gyrru rhai i'r bedd ac yn achub eraill oddi yno.

7. Yr ARGLWYDD sy'n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog;fe sy'n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny.

1 Samuel 2