4. Tynnodd ei fantell a'i rhoi am Dafydd, a'i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i felt.
5. Roedd Dafydd yn llwyddo beth bynnag roedd Saul yn gofyn iddo'i wneud. Felly dyma Saul yn ei wneud yn gapten ar ei fyddin. Ac roedd hynny'n plesio pawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
6. Pan aeth y fyddin adre ar ôl i Dafydd ladd y Philistiad, roedd merched pob tref yn dod allan i groesawu'r brenin Saul. Roedden nhw'n canu a dawnsio'n llawen i gyfeiliant offerynnau taro a llinynnol.
7. Wrth ddathlu'n frwd roedden nhw'n canu fel hyn:“Mae Saul wedi lladd miloedd,ond Dafydd ddegau o filoedd!”
8. Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd e wedi gwylltio. “Maen nhw'n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau ei wneud e'n frenin!”
9. Felly o hynny ymlaen roedd Saul yn amheus o Dafydd, ac yn cadw llygad arno.
10. Y diwrnod wedyn dyma ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dod ar Saul, a dyma fe'n dechrau ymddwyn fel dyn gwallgo yn y tŷ. Roedd Dafydd wrthi'n canu'r delyn iddo fel arfer. Roedd gwaywffon yn llaw Saul,
11. a dyma fe'n taflu'r waywffon at Dafydd. “Mi hoelia i e i'r wal,” meddyliodd. Digwyddodd hyn ddwywaith, ond llwyddodd Dafydd i'w osgoi.
12. Roedd y sefyllfa'n codi ofn ar Saul, am fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, ond wedi ei adael e.
13. Felly dyma Saul yn anfon Dafydd i ffwrdd a'i wneud yn gapten ar uned o fil o filwyr. Dafydd oedd yn arwain y fyddin allan i frwydro.
14. Roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud, am fod yr ARGLWYDD gydag e.
15. Pan welodd Saul sut roedd e'n llwyddo roedd yn ei ofni e fwy fyth.
16. Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin.
17. Yna dyma Saul yn dweud wrth Dafydd, “Dyma Merab, fy merch hynaf i. Cei di ei phriodi hi os gwnei di ymladd brwydrau'r ARGLWYDD yn ddewr.” (Syniad Saul oedd, “Fydd dim rhaid i mi ei ladd e, bydd y Philistiaid yn gwneud hynny i mi!”)
18. “Pwy ydw i, i gael bod yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin?” meddai Dafydd. “Dw i ddim yn dod o deulu digon pwysig.”