1 Samuel 18:12-26 beibl.net 2015 (BNET)

12. Roedd y sefyllfa'n codi ofn ar Saul, am fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, ond wedi ei adael e.

13. Felly dyma Saul yn anfon Dafydd i ffwrdd a'i wneud yn gapten ar uned o fil o filwyr. Dafydd oedd yn arwain y fyddin allan i frwydro.

14. Roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud, am fod yr ARGLWYDD gydag e.

15. Pan welodd Saul sut roedd e'n llwyddo roedd yn ei ofni e fwy fyth.

16. Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin.

17. Yna dyma Saul yn dweud wrth Dafydd, “Dyma Merab, fy merch hynaf i. Cei di ei phriodi hi os gwnei di ymladd brwydrau'r ARGLWYDD yn ddewr.” (Syniad Saul oedd, “Fydd dim rhaid i mi ei ladd e, bydd y Philistiaid yn gwneud hynny i mi!”)

18. “Pwy ydw i, i gael bod yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin?” meddai Dafydd. “Dw i ddim yn dod o deulu digon pwysig.”

19. Ond wedyn, pan ddaeth hi'n amser i roi Merab yn wraig i Dafydd, dyma Saul yn ei rhoi hi i Adriel o Mechola.

20. Roedd Michal, merch arall Saul, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd. Pan glywodd Saul am y peth roedd wrth ei fodd.

21. Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.”

22. Dyma Saul yn cael ei swyddogion i ddweud yn ddistaw bach wrth Dafydd, “Ti'n dipyn o ffefryn gan y brenin, ac yn boblogaidd ymhlith y swyddogion i gyd hefyd. Dylet ti briodi ei ferch e.”

23. Pan gawson nhw air yn ei glust, ymateb Dafydd oedd, “Sut ydych chi'n meddwl mae rhywun fel fi'n mynd i allu priodi merch y brenin? Dw i'n rhy dlawd! Dw i ddim digon pwysig!”

24. Pan aeth y swyddogion i ddweud wrth Saul beth oedd ymateb Dafydd,

25. dyma Saul yn dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth Dafydd mai'r unig dâl mae'r brenin eisiau am gael priodi ei ferch ydy'r blaengrwyn cant o Philistiaid! Mae e eisiau dial ar ei elynion.” (Gobaith Saul oedd y byddai Dafydd yn cael ei ladd gan y Philistiaid.)

26. Felly dyma'r swyddogion yn mynd i ddweud hyn wrth Dafydd. A cymrodd Dafydd fod hyn yn golygu y gallai briodi merch y brenin. Cyn ei bod yn rhy hwyr

1 Samuel 18