54. (Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.)
55. Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner.
56. A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Dos i holi mab i bwy ydy e.”
57. Felly pan ddaeth Dafydd yn ôl wedi lladd y Philistiad, dyma Abner yn mynd ag e at y brenin. Roedd pen y Philistiaid yn ei law.
58. A dyma Saul yn gofyn iddo, “Mab i bwy wyt ti, machgen i?” Atebodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”